Rownd 8 Guinness PRO14: Y diweddaraf o ranbarthau Cymru  

Anna Egan
20 December 2019

Share this article

Rownd 8 Guinness PRO14: Y diweddaraf o ranbarthau Cymru

Mae cyfnod gemau darbis y Nadolig wedi cyrraedd – cyfnod o bythefnos pan fydd pob un o ranbarthau Cymru yn mynd benben â’i gilydd yn y Guinness PRO14.

Mae’n gyfnod arwyddocaol am sawl reswm – ond y peth sy’n gwneud gemau darbis y Nadolig a Chalan mor arbennig yw’r elyniaeth unigryw sy’n bodoli rhwng y pedwar cymydog.

Bydd awyrgylch tanbaid yn cael ei greu yn y pedair stadiwm gan gefnogwyr angerddol yn ysu i weld eu tîm nhw’n trechu’r gelyn. Sŵn byddarol, amodau heriol a gwrthdrawiadau grymus yw’r hyn sy’n diffinio’r achlysuron bythgofiadwy yma yn amlach na pheidio. Cofiwch, bydd modd gweld pob un o’r gemau dros y cyfnod hwn – yn fyw neu yn ohiriedig – ar S4C ac ar alw, ar S4C Clic (www.s4c.cymru/clic).

 

Dydd Sadwrn 21 Rhagfyr

Dreigiau v Scarlets (17.15 – YN FYW ar S4C / LIVE on S4C)

Er  ambell ganlyniad siomedig, mae’r Dreigiau wedi cael dechrau digon addawol dan yr hyfforddwr newydd, Dean Ryan. Gyda Elliott Dee, Cory Hill, Aaron Wainwright a Ross Moriarty yn dychwelyd i’r garfan ar gyfer her y Scarlets nos Sadwrn, mae gan y cefnogwyr gartref rheswm i fod yn dawel hyderus am y gêm.

Mi fydd y Dreigiau yn gobeithio manteisio ar ansefydlogrwydd sydd wedi codi’n ddiweddar yn Llanelli, dros ddyfodol yr hyfforddwr newydd, Brad Mooar. Dyw hi ddim yn gyfrinach fod prif hyfforddwr newydd y Crysau Duon, Ian Foster, eisiau Mooar i ddychwelyd i’w famwlad i fod yn hyfforddwr olwyr y tîm. Er bod Mooar wedi datgan yn gyhoeddus y penbleth emosiynol mae’n teimlo rhwng aros yng Nghymru neu ddychwelyd adref – mae cefnogwyr y Sosban yn ofni bydd tynfa’r cewri o Seland Newydd yn rhy gryf iddo aros.

Ond wedi iddyn nhw ennill pump o’u saith gêm hyd yma’r tymor hwn, mae’r Sosban wedi profi eu bod nhw’n dîm dygn a ddigyfaddawd, a phan mae’r amgylchiadau yn anffafriol tuag atyn nhw, mae ganddyn nhw’r gallu i dorchi llewys ac ennill gemau mewn sawl ffordd. Gyda Ken Owens, Wyn Jones, Jake Ball Aaron Shingler, Gareth Davies, Hadleigh Parkes, Leigh Halfpenny yn ôl i chwarae yn y Guinness PRO14 am y tro cyntaf y tymor hwn, mi fydd hynny’n gwneud nhw’n gryfach fyth. Y Scarlets yw’r ffefrynnau mae’n debyg, ond mi all hon fod yn gêm i ddiddanu pawb.

 

Gweilch v Gleision Caerdydd (19.35 – i’w weld am 15.05 ar ddydd Sul ar S4C)

Mae helyntion diweddar y Gweilch wedi bod ar flaen tafodau cyfryngau rygbi Cymru ers sawl wythnos, ond i ryw raddau, mae’r gwaethaf drosodd idîm y Liberty. Ers i Allen Clarke adael, mae Mike Ruddock wedi dod i mewn ar gytundeb cyfnod byr i sefydlogi’r tîm, tra bod y deuawd profiadol o Carl Hogg a Matt Sherratt yn llywio’r ffordd mae’r tîm yn chwarae.

Bydd gweld eu capten ysbrydoledig, Justin Tipuric yn rhoi’r crys du ymlaen am y tro cyntaf ers Cwpan Rygbi’r Byd yn ddigon i roi gwynt yn hwyliau cefnogwyr yr Ospreyliaid, ac mi fydden nhw’n benderfynol o rhwystro un o’u gelynion pennaf ar domen ei hunain.

Mae sylwadau John Mulvihill, hyfforddwr Gleision Caerdydd wedi ychwanegu tanwydd i’r achlysur, gan dynnu sylw i’r hysbyseb pryfoclyd rhoddodd y Gweilch i ddangos yn gyhoeddus tu allan i Barc yr Arfau yn ddiweddar. Mae’r Gleision wedi enwi tîm cryf ar gyfer y gêm yma, gyda’r bartneriaeth o Jarrod Evans a Tomos Williams yn yr haneri yn sicr o roi olwyr yr ymwelwyr ar y droed flaen.

Mae’r gêm yn siŵr o fod yn frwydr rhwng dau dîm sy’n chwarae mewn dulliau gwbl wahanol, ac er fod gemau darbi yn gallu sbarduno perfformiadau sy’n mynd yn groes i ddisgwyliadau, y Gleision fydd y ffefrynnau i gipio hon.

Share this article