Rownd 6 Guinness PRO14: Y diweddaraf o ranbarthau Cymru

Anna Egan
08 November 2019

Share this article

Rownd 6 Guinness PRO14: Y diweddaraf o ranbarthau Cymru

Dydd Gwener 8 Tachwedd

Caeredin v Dreigiau (19.35)

Er nad yw’n fawr o syndod colli oddi cartref yn erbyn y pencampwyr, natur y perfformiad yn ystod ail hanner y golled 50-15 yn erbyn Leinster fyddai wedi corddi cefnogwyr y Dreigiau nos Wener ddiwethaf. Yn wir, doedd yr amodau gwlyb byth am ganiatáu’r ymwelwyr i chwarae rygbi pert, ond mi ddaru nhw ddangos yn ystod yr hanner cyntaf eu bod nhw’n gallu bod yn gystadleuol a thrafod y bêl yn dda. Yn anffodus, doedd lefel yr amddiffyn ddim o’r un safon ar ôl hanner amser, wrth i dîm ifanc Leinster brofi eu cryfder aruthrol drwy dirio pum cais ychwanegol.

Her digon tebyg sy’n wynebu’r Dreigiau nos Wener yma, wrth iddyn nhw fynd benben â thîm corfforol Caeredin. Pac digyfaddawd ac asgellwyr anferthol – dyna yw ddau brif arf y tîm cartref, felly mi fydd rhaid i amddiffyn y Gŵyr Gwent dangos eu bod wedi dysgu rhai o wersi o benwythnos diwethaf, os am iddyn nhw ddychwelyd adref o’r BT Murrayfield gydag unrhyw beth i ddangos.

Dydd Sadwrn 9 Tachwedd

Gweilch v Southern Kings (15.00 – i’w weld am 22.00 ar nos Lun ar S4C)

Er mor hir yw rhestr anafiadau’r Gweilch, tydi’r cefnogwyr heb arfer  eu gweld yn colli yn y Liberty, felly mi fydd na rywfaint o siom ynghylch y gêm nos Sadwrn diwethaf. Mi fydd y chwaraewyr yn awyddus iawn i osgoi ail golled gartref o’r bron prynhawn dydd Sadwrn yma, wrth i Southern Kings lanio yn Abertawe.

Tydi’r tîm o Port Elizabeth heb ennill yn y Guinness PRO14 eto’r tymor hwn, felly mi fydden nhw’n gweld y gêm yma fel cyfle, yn erbyn tîm sydd â’r rhan fwyaf o’u chwaraewyr dewis cyntaf allan gydag anafiadau neu yn gorffwys wedi Cwpan Rygbi’r Byd. Yn sicr, fydd ‘na ddigon yn y fantol i’r ddau dîm brynhawn dydd Sadwrn.

Gleision Caerdydd v Cheetahs (17.15 – YN FYW ar S4C / LIVE on S4C)

Wedi pedwar colled allan o’r pum gêm agoriadol, rhwystredigaeth yw’r prif emosiwn sy’n cael ei deimlo gan chwaraewyr, hyfforddwyr a chefnogwyr Gleision Caerdydd. Colli o 33 bwynt i 23 gartref yn erbyn Munster oedd eu hanes penwythnos diwethaf, gan ildio tri chais yn ystod ail hanner hynod siomedig.

Bydd y Cheetahs yn cynnig her wahanol ym Mharc yr Arfau y penwythnos yma, gyda rhedwyr twyllodrus tu hwnt ymysg yr olwyr a blaenwyr pwerus sydd yn hyderus yn trafod y bel yn ogystal. Mi ddylai fod digon o geisiau i’w fwynhau yn fyw ar Clwb Rygbi nos Sadwrn, ond mi fydd y cefnogwyr cartref yn gobeithio gweld nhw’n mynd ffordd y Gleision.

Scarlets v Benetton (19.35 – i’w weld am 15.40 ar ddydd Sul ar S4C)

Ar ôl colled drwm annisgwyl yng Nghaeredin, fe ddangosodd Scarlets eu hagwedd benderfynol unwaith eto wrth drechu’r Cheetahs o 17 bwynt i 13 mewn amodau erchyll yn Llanelli ddydd Sadwrn diwethaf. Mewn gêm a allai wedi mynd y naill ffordd neu’r llall, fe ddangosodd y Sosban digon o awch, ysbryd a rheolaeth ar eu gêm i hawlio’u pedwaredd fuddugoliaeth o’r tymor.

Benetton yw’r ymwelwyr y penwythnos hwn ac mi fydd hyfforddwyr a chwaraewyr y Scarlets yn ymwybodol

 

Share this article