Rownd 3 Guinness PRO14: Y diweddaraf o ranbarthau Cymru

Adam Redmond
10 October 2019

Share this article

Rownd 3 Guinness PRO14: Y diweddaraf o ranbarthau Cymru

Dydd Gwener 11 Hydref

Dreigiau v Connacht

(19.35 – YN FYW ar S4C / LIVE on S4C)

O’r diwedd. Mis Mawrth 2015 oedd y tro diwethaf i’r Dreigiau ennill oddi cartref yn y Guinness PRO14, ond penwythnos diwethaf yn Stadio Sergio Lanfranchi, fe lwyddodd  Gwŷr Gwent i ddod a’r rhediad yna i ben. Gan sgorio saith cais yn eu buddugoliaeth 52-28 dros Zebre, fe ddangoswyd bod ganddynt yr hyder a’r ddawn i fod yn gystadleuol yn y gynghrair y tymor hwn.

Maent yn dychwelyd adref nos Wener ar gyfer eu gêm gyntaf y tymor yn Rodney Parade, yn erbyn Connacht, gyda’r cyfan yn fyw ar S4C. Mae Dean Ryan wedi gwneud tri newid i’w dîm, gydag Ashton Hewitt, Adam Warren a Huw Taylor yn ôl yn y tîm.

Bydd Connacht yn teithio i Gasnewydd mewn hwyliau da yn dilyn y grasfa o 41 bwynt i 5 rhoddwyd i Benetton y penwythnos diwethaf. Ond mi fydd y Dreigiau yn awyddus i osod sylfaen gadarn i’r tymor o flaen y cefnogwyr cartref ac ennill ail gêm o’r bron.


Dydd Sadwrn 12 Hydref

Scarlets v Zebre

(15.00)

Gyda buddugoliaeth gartref dros Connacht a llwyddiant nodedig oddi cartref yn erbyn Glasgow Warriors penwythnos diwethaf, gallai cyfnod Brad Mooar gyda’r Scarlets ddim wedi dechrau  yn well. Er yr amodau amrywiol maent wedi wynebu yn y ddwy gêm Guinness PRO14 hyd yma, maent wedi canfod ffordd o ennill y ddwy dro, sydd yn adrodd cyfrolau am yr agwedd benderfynol sydd yn y garfan.

Mae sawl chwaraewr wedi gwneud argraff yn ystod 160 munud agoriadol y tymor, ond mi gafodd y capten dros dro, Steff Hughes, ei ganmol i’r cymylau gan Mooar ar ôl y fuddugoliaeth gyffrous yn Scotstoun. Yn rhan o linell ôl all beri gofid i unrhyw amddiffyn, mae Steff wedi arwain ymdrechion y tîm o’r blaen ac mi fydd cefnogwyr y sosban yn gobeithio gweld perfformiad safonol arall ganddo yn erbyn Zebre ar brynhawn ddydd Sadwrn. Er mai colli oedd hanes yr Eidalwyr penwythnos diwethaf, mi fydd rhaid i’r Scarlets fod yn gwbl effro i’r bygythiad corfforol maen nhw’n gynnig.


Glasgow Warriors v Gleision Caerdydd

(19.35 – i’w weld am 14.20 ar ddydd Sul ar S4C)

Siom oedd y prif emosiwn gan chwaraewyr a hyfforddwyr Gleision Caerdydd ar ôl colli gartref yn erbyn Caeredin penwythnos diwethaf. Fydd rhaid iddyn nhw geisio defnyddio hynny i’w hysgogi a’u hysbrydoli yn Scotstoun nos Sadwrn pan fyddant yn wynebu Glasgow – tîm sydd hefyd a phwynt i’w phrofi.

Mae hon yn dymor pwysig i’r Gleision a’u prif hyfforddwr John Mulvihill, wrth iddynt anelu i gyrraedd gemau rowndiau terfynol y PRO14. Wrth edrych ar dablau’r gynghrair ar ddiwedd y tymor diwethaf, mae’n edrych fel bydd rhaid iddynt ennill 12 gêm i gyrraedd y nod hwnnw, sef dwy fuddugoliaeth yn fwy na chawson nhw llynedd. Mi fydd hi’n dalcen caled iddyn nhw yn erbyn y Warriors y penwythnos yma, ond fel ddangosodd y Scarlets penwythnos diwethaf, os ydych chi’n cymryd eich cyfleoedd i sgorio ceisiau, mae’r fuddugoliaeth o fewn cyrraedd.


Gweilch v Benetton

(19.35 – i’w weld am 22.00 ar nos Lun ar S4C)

Digon teg i ddweud nad yw hi ‘di bod yn ddechrau da i dymor y Gweilch. Mae dwy golled trwm oddi gartref yn Ulster a Leinster yn ei gadael y Ospreyliaid ar waelod tabl Adran A. Ond efallai mai symptom y broblem yw’r canlyniadau; problem sy’n cael eu achosi gan diffyg rhyfeddol o chwaraewyr – chwaraewyr draw yn Siapan ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd, a chwaraewyr sy’n dioddef gydag anafiadau.

Y safle ble mae’r absenoldebau’n effeithio fwyaf yw’r ail reng. Yn y gêm yn erbyn Leinster y penwythnos diwethaf, daeth Lloyd Ashley a’r recriwt ail-reng newydd, Ben Glynn, oddi ar gae yn gynnar gydag anafiadau. Mi fydd Allen Clarke a’r tîm hyfforddi yn gobeithio’n arw eu bod wedi gwella erbyn nos Sadwrn, pan fyddan nhw’n dychwelyd i’r Liberty ar gyfer eu gêm gartref cyntaf o’r tymor. Er bod digon o ddawn a chyflymdra y tu ôl i’r sgrym, mi fydd rhaid cael sylfaen llawer iawn mwy cadarn gan y blaenwyr os ydynt am drechu Benetton.

Share this article