Rownd 14 Guinness PRO14: Y diweddaraf o ranbarthau Cymru

Adam Redmond
25 January 2019

Share this article

Rownd 13 Guinness PRO14: Y diweddaraf o ranbarthau Cymru

Nos Wener 25 Ionawr

Leinster v Scarlets

(17.15 – ar gael i’w wylio yn llawn am 15.45 ar ddydd Sul)

Ar drothwy’r Chwe Gwlad, bydd y ddau dîm a gyrhaeddodd rownd derfynol y Guinness PRO14 llynedd yn cwrdd eto’r penwythnos yma. Ond gyda chynifer o chwaraewyr rhyngwladol i ffwrdd yn paratoi gyda’i gwledydd, mi fydd ‘na olwg wahanol i dimoedd Leinster a Scarlets wrth iddyn nhw fynd benben a’i gilydd yn y Royal Dublin Society nos Wener.

Er hynny, mae tîm Leo Cullen wedi dangos sawl tro’r tymor hwn eu bod yn gallu trechu timoedd eraill, hyd yn oed pan nad yw’r enwau mawr o gwmpas. Mae’r blaenasgellwr Scott Penny a’r maswr Ciaran Frawley ymysg y genhedlaeth nesaf o chwaraewyr y dalaith sydd eisoes wedi dangos eu bod nhw’n gyfforddus iawn ar y lefel y hon.

Ond mae’r Scarlets yn teithio dros Fôr yr Iwerydd mewn hwyliau da, ac er sawl anaf ac absenoldeb oherwydd y Chwe Gwlad, mi fyddan nhw’n obeithiol o gymryd mantais o ddiffyg profiad y tîm cartref. Mae Jake Ball wedi cael ei rhyddhau gan garfan Cymru i chwarae yn y gêm, tra bydd y capten Steff Hughes yn cael cwmni Kieron Fonotia yng nghanol y cae ar ôl iddo wella o anaf.


Glasgow v Gweilch

(17.15 – ar gael i’w wylio yn llawn am 22.05 ar nos Lun)

 

Mae’n stori ddigon tebyg yn Scotstoun, ble fydd Glasgow Warriors a’r Gweilch yn wynebu ei gilydd heb sawl chwaraewr rhyngwladol. Ond mae’r ddwy garfan yn brolio digon o chwaraewyr talentog, sydd yn awyddus iawn i ddangos hyfforddwyr cenedlaethol beth maen nhw di fethu allan arno drwy beidio eu dewis. Yn disgyn yn y categori yna i’r Gweilch mae Dan Evans, Luke Morgan, Cory Allen, Sam Davies a Scott Baldwin. Felly disgwyliwch weld ychydig o dan gwyllt yn y gêm yma.

Gyda’r Albanwyr yn yr ail safle, un safle uwchben y Gweilch, mae lot yn y fantol i’r ddau dîm. Ennill â phwynt bonws, ac fe all y rhanbarth o Abertawe neidio uwchben eu gwrthwynebwyr a chau’r bwlch ar y tîm sydd ar frig y tabl, Munster. Colli, ac mi fyddan nhw’n colli tir ar Glasgow ac yn agor pethau i fyny i Connacht lamu o’u blaenau yn y ras hynod gystadleuol am y tri safle uchaf.


Dydd Sadwrn 26 Ionawr

Dragons v Munster

(15.00)

Josh Lewis

Ar ôl tynnu’r Timosoara Saracens i ddarnau yn y Cwpan Her pythefnos yn ôl, cafodd y Dreigiau wers hallt penwythnos diwethaf wrth iddyn nhw golli o saith bwynt i 49 yn erbyn Clermont Auvergne. Byddent yn awyddus i adael argraff gwell y penwythnos hwn yn erbyn Munster.

Gyda chyfran sylweddol o’u carfan i ffwrdd yn ymarfer gydag Iwerddon, mae hon yn adeg gymharol dda i chwarae yn erbyn Munster – os yw’r ffasiwn beth yn bodoli – ac mi fydd Ceri Jones yn gobeithio cymryd mantais. Mae disgwyl gweld Tyler Morgan yn dychwelyd i’r garfan, gan gymryd lle Adam Warren, sydd wedi anafu, tra bod gobeithion o weld Ross Moriarty yn dychwelyd ar ôl iddo ddioddef o gyfergyd. Bydd presenoldeb Brok Harris a Lloyd Fairbrother yn y rheng flaen yn hwb mawr i’r cefnogwyr cartref yn ogystal.


Gleision Caerdydd v Connacht

(17.15 – yn fyw ar S4C)

Dacey

Mae’n hen ystrydeb yn y PRO14 bod Connacht yn dîm anodd i wynebu mewn ffenestr ryngwladol. Ond gyda chwech o’i chwaraewyr mwya’ profiadol yn derbyn galwad i garfan Iwerddon, mi fydd Gleision Caerdydd yn awyddus i chwalu’r ystrydeb hynny. A gan ystyried safleoedd y ddau dîm yn Adran A y gynghrair, mae hon yn edrych fel gêm na allai tîm John Mulvihill fforddio’ ei golli os am gyrraedd y tair uchaf.

Gyda saith o chwaraewyr eu hunain i ffwrdd gyda Chymru – Gareth Anscombe, Tomos Williams, Jarrod Evans, Josh Navidi, Dillon Lewis, Seb Davies a Josh Turnbull – ni fydd hon yn gêm hawdd i’r Gleision. Mae’r ddau dîm yn cael eu hystyried fel timau sydd ag olwyr chwim, dwylo da a phaciau cryf – ond pwy bynnag fydd yn medru ennill goruchafiaeth ymysg y blaenwyr fydd yn debygol o fynd â’r pwyntiau yn y gêm bwysig hon.

Share this article