Rownd 8 Guinness PRO14: Y diweddaraf o ranbarthau Cymru

Adam Redmond
02 November 2018

Share this article

Rownd 8 Guinness PRO14: Y diweddaraf o ranbarthau Cymru

Dydd Gwener 2 Tachwedd

Caeredin v Scarlets (19.35)

Fel mae Paul Williams yn sôn yn ei golofn ‘Black and White’,* dyma Mis y Dyfnder (Depth Month) i dimoedd Guinness PRO14, gyda sawl chwaraewr rhyngwladol i ffwrdd gyda’i gwledydd. Fe lwyddodd y Scarlets yn eu prawf cyntaf yr wythnos ddiwethaf, wrth iddyn nhw hawlio buddugoliaeth pwynt bonws draw ym Mhort Elizabeth nos Wener ddiwethaf.

Bydd yr ail brawf yn anoddach fyth, wrth iddyn nhw herio Caeredin. Mae’r Scarlets yn gobeithio croesawu Kieron Fonotia yn ôl, tra bod Ryan Elias wedi ei ryddhau i chwarae gan dîm hyfforddi Cymru. Ond mae amheuon dros ffitrwydd y cefnwr Clayton Blommetjies.

Colli oddi cartref yn Zebre oedd hanes yr Albanwyr y penwythnos diwethaf, ac mi fydd Richard Cockerill yn galw am ymateb cryf gan ei chwaraewyr.


Gweilch v Glasgow Warriors (19.35)

ar gael i’w gwylio yn llawn am 15.45  ddydd Sul, ar S4C

O flaen torf angerddol yn y Brewery Field nos Wener ddiwethaf, fe roddodd y Gweilch berfformiad digyfaddawd a phenderfynol, wrth iddyn nhw drechu tîm cryf Connacht gyda chais munud olaf gan Dan Evans. Mae’r hyfforddwr Allen Clarke wedi awgrymu y bydd yn cadw’r chwaraewyr a hawliodd y fuddugoliaeth yno, wrth iddyn nhw ddychwelyd i’r Liberty nos Wener ar gyfer ymweliad gan Glasgow Warriors.

Gyda 13 o’u chwaraewyr yng ngharfan Yr Alban fydd yn herio Cymru dydd Sadwrn, byddai rhai yn dweud fod nawr yn adeg da i chwarae’n erbyn Glasgow. Ond mae gan tîm Dave Rennie ddyfnder maith â’r awydd i chwarae’n gyflym a di-baid, felly bydd rhaid i’r tîm cartref fod yn wyliadwrus ac yn gadarn.


Dydd Sadwrn 3 Tachwedd

Connacht v Dreigiau (17.15 – yn fyw ar S4C)

Unwaith eto, roedd agweddau positif i berfformiad y Dreigiau’r penwythnos diwethaf; edrychodd Jason Tovey fel na tasai wedi bod i ffwrdd yn safle’r maswr, tra bod Harri Keddie wedi dangos eu bygythiad corfforol wrth iddo ddychwelyd i’r maes ar ôl anaf. Ond unwaith eto, fe gollon nhw’r gêm, o 36 pwynt i 18, i ymestyn eu rhediad heb fuddugoliaeth oddi cartref yn y Guinness PRO14 i 36 gêm.

Bydd ganddyn nhw gyfle arall i dynnu eu hunain allan o’r rhediad sâl yno nos Sadwrn, wrth iddyn nhw fynd i Galway i herio Connacht. Tydi gemau yn y Sportsground byth yn hawdd, ond tra bod tri o’u chwaraewyr gorau – Bundee Aki, Finlay Bealham a Quinn Roux – i ffwrdd yn America gyda charfan Iwerddon, efallai mai dyma ble fydd y Dreigiau yn ail-ganfod eu tân oddi cartref. Amser a ddengys.


Dydd Sul 4 Tachwedd

Gleision Caerdydd v Zebre (14.45)

Mi fydd hi’n siŵr o fod yn brynhawn emosiynol ym Mharc yr Arfau ddydd Sul, wrth i Gethin Jenkins chwarae yn ei gêm rygbi olaf. Mae’r prop penrhydd yn dal mwy o gapiau dros Gymru na neb arall, ac yn ail tu ôl i Tao’o Filise ar restr nifer ymddangosiadau dros y Gleision. Mae problemau gyda’i ben-glin wedi rhwystro Jenkins rhag chwarae yn y Guinness PRO14 hyd yma eleni, ond mi fydd o’n sicr o fod eisiau gorffen ei yrfa mewn steil yn erbyn Zebre.

Mae’r tîm o Barma yn cyrraedd y brifddinas mewn hwyliau da, yn dilyn eu buddugoliaeth wych 34-16 dros Gaeredin y penwythnos diwethaf. Ac wrth ystyried eu bod eisoes wedi trechu tîm John Mulvihill y tymor, mi fyddan nhw’n llwyr ymwybodol o fygythiad y Gleision ac yn hyderus o allu ail-adrodd y canlyniad.

Share this article