Rownd 3 Guinness PRO14: Y diweddaraf o ranbarthau Cymru

Adam Redmond
13 September 2018

Share this article

Dydd Gwener 14 Medi

Munster v Gweilch

(19.35 – ar gael i’w gwylio eto yn llawn ddydd Sul am 16.15 ar S4C)

Justin Tipuric Ospreys PRO14 fantasy

Wedi dwy fuddugoliaeth hyd yma, mae’r Gweilch wedi cael dechrau gwych i’w tymor Guinness PRO14. Ond mae’r daith i Cork i wynebu Munster yn her i unrhyw dîm, ac yn sicr o brofi’n bapur litmws i gyflwr y garfan y tymor hwn. Mi fydden nhw heb y canolwr Scott Williams am sbel, wedi iddo rwygo ei linyn y gar yn ystod y fuddugoliaeth dros y Cheetahs. Yn ogystal â hynny, mae pryderon dros y cefnwr Dan Evans a’r prop Nicky Smith, wedi i’r ddau ddioddef ergydion i’w pennau nos Sadwrn; mae anaf Smith wedi gadael y rhanbarth yn fyr ar bropiau penrhydd, ac mi fydd Allen Clarke yn croesi ei fysedd bod ei brop ddewis cyntaf yn llwyddo i basio’r profion cyfergyd.

Wedi colled siomedig draw yn Glasgow y penwythnos diwethaf, mae disgwyl i Johann van Graan enwi sawl chwaraewr rhyngwladol Iwerddon yn ei garfan am y tro gyntaf y tymor hwn ar gyfer y gêm nos Wener. Un gŵr fydd ddim yn chwarae yw mewnwr y Llewod, Connor Murray, sy’n dal i wella o anaf i’w wddf.

 

Dydd Sadwrn 15 Medi

Leinster v Dreigiau (17.15)

O flaen eu torf gartref, fe lwyddodd y Dreigiau i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf o’r tymor yn erbyn y Southern Kings ddydd Sadwrn diwethaf. Er natur sigledig y perfformiad, roedd ambell nodwedd bositif i godi calon gefnogwyr y Dreigiau hyd yma: rhedeg twyllodrus Jordan Williams o safle’r cefnwr; cryfder y triawd rhyngwladol yn y rheng ôl, Ollie Griffiths, Ross Moriarty ac

Mi fydd Gŵyr Gwent yn llwyr ymwybodol na allant wastraffu unrhyw gyfleoedd y penwythnos yma, wrth iddyn nhw fynd benben â deiliad y PRO14 a phencampwyr Ewrop, Leinster, yn yr RDS. I wneud yr her yn anoddach fyth, mae disgwyl i’r Gwyddelod ail-groesawu fwy o’u chwaraewyr rhyngwladol yn ôl i’r adwy, gan gynnwys Johnny Sexton, Garry Ringrose, Rob Kearney a James Ryan. Y nod i’r Dreigiau fydd i gadw mor agos â phosib a cheisio rhwystro’r peiriant glas pwerus yma a’u cefnogwyr disgwylgar.


Scarlets v Benetton 

(17.15 – yn fyw ar S4C)

Un tîm a lwyddodd i rwystro’r peiriant glas pwerus (a soniwyd amdanynt uchod!) y penwythnos diwethaf oedd y Scarlets. Fe ddangosodd y gorllewinwyr eu bod nhw’n dal ymysg ceffylau blaen y gynghrair gyda’r fuddugoliaeth galonogol yna dros eu gelynion pennaf yn ystod tymor diwethaf. Bydd Rob Evans a Josh Macleod yn methu’r gêm yn erbyn yr Eidalwyr ddydd Sadwrn oherwydd anafiadau yn erbyn Leinster, ond mae Wayne Pivac yn obeithiol y bydd Jake Ball, Wyn Jones a Johnny McNicholl yn holliach.

Wedi dau lwyddiant o’u dwy gêm, yn erbyn dau o ranbarthau Cymru, y Dreigiau a’r Gleision, mae Benetton ar frig Adran B y Guinness PRO14 ac yn teithio i Lanelli yn llawn hyder. Mae’r tîm o Treviso yn fygythiad cwbl wahanol y dyddiau yma ac fe fydd yn rhaid i’r Scarlets fod yn gwbl effro i’w cryfderau; pac cryf gyda rheng ôl ddigyfaddawd, a chefnwyr pwerus yn cael eu llywio gan y maswr profiadol, Tomasso Allan.


Zebre v Gleision Caerdydd (19.35)

Pwy fyddai’n meddwl mai’r Gleision fyddai’r unig ranbarth o Gymru heb fuddugoliaeth ar ôl dwy rownd? Yn enwedig gan ystyried y fantais gref maent wedi adeiladu yn eu dwy gêm agoriadol yn erbyn Leinster a Benetton, cyn ildio’r fantais yn hwyr ar y ddau achlysur. Wrth iddynt baratoi am gêm nos Sadwrn yn yr Eidal, byddent yn benderfynol o orffen y rhediad anffodus yna a hawlio buddugoliaeth gyntaf i’r hyfforddwr newydd, John Mulvihill. Y positif mawr o safbwynt cefnogwyr y Gleision yw bod y tîm yn parhau i chwarae rygbi deniadol a sgorio ceisiau; y pryder yw bod rhaid iddyn nhw wybod pa bryd i chwarae a pha bryd i reoli tiriogaeth.

Er iddyn nhw golli draw yn Connacht penwythnos diwethaf, mae Zebre hefyd yn fwystfil gwahanol y dyddiau yma. Cyn y golled yno, roedden nhw ar rediad o bedair buddugoliaeth yn olynol yn y PRO14. Mae’r dyddiau lle’r oedd timoedd Yr Eidal yn cael eu gweld fel rhai gwan nawr yn y gorffennol, ac fe wnaiff y Gleision yn dda i orffen eu rhediad o golledion i ben yn y Stadio Sergio Lanfranchi.p

Share this article